Annwyl Jocelyn a gweddill aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth,

Rwyf newydd ddychwelyd o gyfarfodydd drwy’r dydd rhwng y diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Saesneg a’r Cyngor Llyfrau yn trafod sut y bydd y diwydiant yn cael ei effeithio gan y toriad llym o dros 10% sy’n ein hwynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Hoffwn gyflwyno tri phwynt i’ch sylw.

  1. Yng nghynlluniad arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad, mae’r toriad i’r diwydiant cyhoeddi yn llawer uwch nac mewn cyrff sy’n rhan o Lywodraeth y Cynulliad a diwydiannau eraill sy’n cael arian buddsoddi drwy Busnes Cymru.
  2. Rhaid nodi eto mai diwydiant ydyw a buddsoddiad (tebyg i’r hyn mae Busnes Cymru yn ei roi i ddiwydiannau eraill) yw’r arian a gawn gan Lywodraeth y Cynulliad drwy’r Cyngor Llyfrau. Fel pob diwydiant arall, rydym yn ychwanegu ein buddsoddiad ein hunain at yr arian cyhoeddus. Bydd llai o fuddsoddiad o’r Cynulliad yn golygu llai o fodd i fuddsoddi gan y gweisg – a bydd yr effaith yn llawer mwy na’r canran yr ydych yn edrych arno ar hyn o bryd. Mewn gwasgfa economaidd, mae rhoi ergyd i ddiwydiant yn mynd i arwain at gynyddu cyni’r saith mlynedd diwethaf. Mae oddeutu 1,000 yn gweithio yn y diwydiant yng Nghymru (a hynny ym mhob cwr o’r wlad) ac mae’n cyfrannu’n economaidd at ddiwydiannau eraill megis twristiaeth a gwasanaethau megis byd addysg. Er mai bychan iawn yw cyfanswm grantiau’r Cyngor Llyfrau, mae dosbarthiad eang yr arian yn cynnal llawer o weithwyr hunangyflogedig ym myd  dylunio, darlunio, ffotograffiaeth, golygu ac awduro yn ogystal â swyddi argraffwyr, cyhoeddwyr, dosbarthwyr, gwerthwyr a siopwyr. Mae awduron yn arbennig yn mynd i ddioddef gan fod llawer yn cynnal eu swyddi drwy weithio ym maes llyfrau a theledu – ac mae S4C eisoes wedi gweld toriadau trymion ers blynyddoedd. Mae toriadau y blynyddoedd diwethaf i’r Cyngor Llyfrau wedi cael eu llyncu gan y diwydiant – does dim cynnydd yn ôl graddfa chwyddiant wedi bod i’r grantiau ers 6 mlynedd, does dim cymorth ariannol bellach ar gyfer e-lyfrau, hyrwyddo rhaglen gyhoeddi cyson drwy’r flwyddyn, hyrwyddo gwerthiant uchel na’r rhan fwyaf o gostau lansio llyfrau. Eto mae’r diwydiant wedi llwyddo i gyhoeddi yr un nifer o lyfrau Cymraeg a Saesneg noddedig ag a wnaed cyn y toriadau a hynny ar grantiau llai – ac wedi gwneud hynny drwy beidio â buddsoddi mewn peiriannau a thechnoleg. Bydd y toriadau pellach yn sicr o arwain at docio sylweddol yn nifer y llyfrau – tocio fydd yn dwyn i ystyriaeth y toriadau blaenorol yn ogystal. Bydd cwtogi nifer y llyfrau dan nawdd yn gwneud y gweisg yn llai abl i fuddsoddi mewn llyfrau masnachol a bydd y diwydiant cyfan yn crebachu a bydd swyddi’n cael eu colli. Yn ein gwasg ni rydym yn cyflogi 20 yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Rydym yn rhagweld y bydd 2 swydd yn cael eu colli o fis Ebrill ymlaen. Byddwn yn tocio’n sylweddol ar waith argraffu allanol i weisg eraill yng Nghymru ac ar waith a roddwn i weithwyr hunangyflogedig yn y diwydiant. Bydd prisiau llyfrau yn codi i ateb y costau ychwanegol (a bydd hyn yn cael effaith negyddol ar gyllid addysg yng Nghymru).
  3. Mae’n ddiwydiant sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y diwylliant Cymraeg a Chymreig, yn hybu llythrennedd ac yn cyfrannu’n helaeth at fywiogrwydd ac ynni’r byd creadigol yng Nghymru. Mae gwledydd eraill yn buddsoddi yn eu diwydiannau creadigol – mae’n creu brand unigryw ac yn hyrwyddo twristiaeth ddiwylliannol. Mae’r diwydiant cyhoeddi hefyd yn darparu cyfrolau o lenyddiaeth ragorol yn nwy iaith Cymru. Bydd y toriadau yn ergyd i’r to ifanc o ddarllenwyr Cymraeg yn arbennig. Ar hyn o bryd mae siaradwyr Cymraeg yn prynu dwywaith cymaint o lyfrau ag a wneir gan siaradwyr Saesneg ym Mhrydain. Byddwn yn sicr o beryglu’r gwaith da sydd wedi’i wneud dros yr hanner canrif diwethaf i ddod â llyfrau a darllen yn rhan o fwynhad torfol yn ein gwlad.


Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb a pha weledigaeth sydd gennych ar gyfer dyfodol y diwydiant hwn yng Nghymru.

Yn gywir,
Myrddin ap Dafydd
Cyfarwyddwr
Gwasg Carreg Gwalch